78. Ac am yr Iorddonen a Jericho, sef o du dwyrain yr Iorddonen, y rhoddwyd o lwyth Reuben, Beser yn yr anialwch a'i meysydd pentrefol, Jasa hefyd a'i meysydd pentrefol,
79. Cedemoth hefyd a'i meysydd pentrefol, a Meffaath a'i meysydd pentrefol.
80. Ac o lwyth Gad, Ramoth yn Gilead a'i meysydd pentrefol, Mahanaim hefyd a'i meysydd pentrefol,
81. Hesbon hefyd a'i meysydd pentrefol, a Jaser a'i meysydd pentrefol.