64. A meibion Israel a roddasant i'r Lefiaid y dinasoedd hyn a'u meysydd pentrefol.
65. A hwy a roddasant trwy goelbren, o lwyth meibion Jwda, ac o lwyth meibion Simeon, ac o lwyth meibion Benjamin, y dinasoedd hyn, y rhai a alwasant hwy ar eu henwau hwynt.
66. I'r rhai oedd o deuluoedd meibion Cohath, yr ydoedd dinasoedd eu terfyn, o lwyth Effraim.
67. A hwy a roddasant iddynt hwy ddinasoedd noddfa, sef Sichem a'i meysydd pentrefol, ym mynydd Effraim; Geser hefyd a'i meysydd pentrefol,
68. Jocmeam hefyd a'i meysydd pentrefol, a Beth‐horon a'i meysydd pentrefol,
69. Ac Ajalon a'i meysydd pentrefol, a Gath‐rimmon a'i meysydd pentrefol.
70. Ac o hanner llwyth Manasse; Aner a'i meysydd pentrefol, a Bileam a'i meysydd pentrefol, i deulu y rhai oedd yng ngweddill o feibion Cohath.
71. I feibion Gersom o deulu hanner llwyth Manasse y rhoddwyd, Golan yn Basan a'i meysydd pentrefol, Astaroth hefyd a'i meysydd pentrefol.
72. Ac o lwyth Issachar; Cedes a'i meysydd pentrefol, Daberath a'i meysydd pentrefol,
73. Ramoth hefyd a'i meysydd pentrefol, ac Anem a'i meysydd pentrefol.
74. Ac o lwyth Aser; Masal a'i meysydd pentrefol, ac Abdon a'i meysydd pentrefol,
75. Hucoc hefyd a'i meysydd pentrefol, a Rehob a'i meysydd pentrefol.
76. Ac o lwyth Nafftali; Cedes yn Galilea a'i meysydd pentrefol, Hammon hefyd a'i meysydd pentrefol, a Chiriathaim a'i meysydd pentrefol.
77. I'r rhan arall o feibion Merari y rhoddwyd o lwyth Sabulon, Rimmon a'i meysydd pentrefol, a Thabor a'i meysydd pentrefol.
78. Ac am yr Iorddonen a Jericho, sef o du dwyrain yr Iorddonen, y rhoddwyd o lwyth Reuben, Beser yn yr anialwch a'i meysydd pentrefol, Jasa hefyd a'i meysydd pentrefol,
79. Cedemoth hefyd a'i meysydd pentrefol, a Meffaath a'i meysydd pentrefol.
80. Ac o lwyth Gad, Ramoth yn Gilead a'i meysydd pentrefol, Mahanaim hefyd a'i meysydd pentrefol,
81. Hesbon hefyd a'i meysydd pentrefol, a Jaser a'i meysydd pentrefol.