Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 6:63-75 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

63. I feibion Merari trwy eu teuluoedd, o lwyth Reuben, ac o lwyth Gad, ac o lwyth Sabulon, y rhoddasant trwy goelbren ddeuddeg o ddinasoedd.

64. A meibion Israel a roddasant i'r Lefiaid y dinasoedd hyn a'u meysydd pentrefol.

65. A hwy a roddasant trwy goelbren, o lwyth meibion Jwda, ac o lwyth meibion Simeon, ac o lwyth meibion Benjamin, y dinasoedd hyn, y rhai a alwasant hwy ar eu henwau hwynt.

66. I'r rhai oedd o deuluoedd meibion Cohath, yr ydoedd dinasoedd eu terfyn, o lwyth Effraim.

67. A hwy a roddasant iddynt hwy ddinasoedd noddfa, sef Sichem a'i meysydd pentrefol, ym mynydd Effraim; Geser hefyd a'i meysydd pentrefol,

68. Jocmeam hefyd a'i meysydd pentrefol, a Beth‐horon a'i meysydd pentrefol,

69. Ac Ajalon a'i meysydd pentrefol, a Gath‐rimmon a'i meysydd pentrefol.

70. Ac o hanner llwyth Manasse; Aner a'i meysydd pentrefol, a Bileam a'i meysydd pentrefol, i deulu y rhai oedd yng ngweddill o feibion Cohath.

71. I feibion Gersom o deulu hanner llwyth Manasse y rhoddwyd, Golan yn Basan a'i meysydd pentrefol, Astaroth hefyd a'i meysydd pentrefol.

72. Ac o lwyth Issachar; Cedes a'i meysydd pentrefol, Daberath a'i meysydd pentrefol,

73. Ramoth hefyd a'i meysydd pentrefol, ac Anem a'i meysydd pentrefol.

74. Ac o lwyth Aser; Masal a'i meysydd pentrefol, ac Abdon a'i meysydd pentrefol,

75. Hucoc hefyd a'i meysydd pentrefol, a Rehob a'i meysydd pentrefol.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 6