54. A dyma eu trigleoedd hwynt yn ôl eu palasau, yn eu terfynau; sef meibion Aaron, o dylwyth y Cohathiaid: oblegid eiddynt hwy ydoedd y rhan hon.
55. A rhoddasant iddynt Hebron yng ngwlad Jwda, a'i meysydd pentrefol o'i hamgylch.
56. Ond meysydd y ddinas, a'i phentrefi, a roddasant hwy i Caleb mab Jeffunne.
57. Ac i feibion Aaron y rhoddasant hwy ddinasoedd Jwda, sef Hebron, y ddinas noddfa, a Libna a'i meysydd pentrefol, a Jattir ac Estemoa, a'u meysydd pentrefol,
58. A Hilen a'i meysydd pentrefol, a Debir a'i meysydd pentrefol,
59. Ac Asan a'i meysydd pentrefol, a Bethsemes a'i meysydd pentrefol:
60. Ac o lwyth Benjamin; Geba a'i meysydd pentrefol, ac Alemeth a'i meysydd pentrefol, ac Anathoth a'i meysydd pentrefol: eu holl ddinasoedd hwynt trwy eu teuluoedd oedd dair dinas ar ddeg.
61. Ac i'r rhan arall o feibion Cohath o deulu y llwyth hwnnw, y rhoddwyd o'r hanner llwyth, sef hanner Manasse, ddeg dinas wrth goelbren.
62. Rhoddasant hefyd i feibion Gersom trwy eu teuluoedd, o lwyth Issachar, ac o lwyth Aser, ac o lwyth Nafftali, ac o lwyth Manasse yn Basan, dair ar ddeg o ddinasoedd.
63. I feibion Merari trwy eu teuluoedd, o lwyth Reuben, ac o lwyth Gad, ac o lwyth Sabulon, y rhoddasant trwy goelbren ddeuddeg o ddinasoedd.
64. A meibion Israel a roddasant i'r Lefiaid y dinasoedd hyn a'u meysydd pentrefol.
65. A hwy a roddasant trwy goelbren, o lwyth meibion Jwda, ac o lwyth meibion Simeon, ac o lwyth meibion Benjamin, y dinasoedd hyn, y rhai a alwasant hwy ar eu henwau hwynt.
66. I'r rhai oedd o deuluoedd meibion Cohath, yr ydoedd dinasoedd eu terfyn, o lwyth Effraim.
67. A hwy a roddasant iddynt hwy ddinasoedd noddfa, sef Sichem a'i meysydd pentrefol, ym mynydd Effraim; Geser hefyd a'i meysydd pentrefol,