52. Meraioth ei fab yntau, Amareia ei fab yntau, Ahitub ei fab yntau,
53. Sadoc ei fab yntau, Ahimaas ei fab yntau.
54. A dyma eu trigleoedd hwynt yn ôl eu palasau, yn eu terfynau; sef meibion Aaron, o dylwyth y Cohathiaid: oblegid eiddynt hwy ydoedd y rhan hon.
55. A rhoddasant iddynt Hebron yng ngwlad Jwda, a'i meysydd pentrefol o'i hamgylch.
56. Ond meysydd y ddinas, a'i phentrefi, a roddasant hwy i Caleb mab Jeffunne.
57. Ac i feibion Aaron y rhoddasant hwy ddinasoedd Jwda, sef Hebron, y ddinas noddfa, a Libna a'i meysydd pentrefol, a Jattir ac Estemoa, a'u meysydd pentrefol,
58. A Hilen a'i meysydd pentrefol, a Debir a'i meysydd pentrefol,
59. Ac Asan a'i meysydd pentrefol, a Bethsemes a'i meysydd pentrefol:
60. Ac o lwyth Benjamin; Geba a'i meysydd pentrefol, ac Alemeth a'i meysydd pentrefol, ac Anathoth a'i meysydd pentrefol: eu holl ddinasoedd hwynt trwy eu teuluoedd oedd dair dinas ar ddeg.