Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 6:47-57 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

47. Fab Mahli, fab Musi, fab Merari, fab Lefi.

48. A'u brodyr hwynt y Lefiaid oedd gwedi eu rhoddi ar holl wasanaeth tabernacl tŷ Dduw.

49. Ond Aaron a'i feibion a aberthasant ar allor y poethoffrwm, ac ar allor yr arogl‐darth, i gyflawni holl wasanaeth y cysegr sancteiddiolaf, ac i wneuthur cymod dros Israel, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Moses gwas Duw.

50. Dyma hefyd feibion Aaron; Eleasar ei fab ef, Phinees ei fab yntau, Abisua ei fab yntau,

51. Bucci ei fab yntau, Ussi ei fab yntau, Seraheia ei fab yntau,

52. Meraioth ei fab yntau, Amareia ei fab yntau, Ahitub ei fab yntau,

53. Sadoc ei fab yntau, Ahimaas ei fab yntau.

54. A dyma eu trigleoedd hwynt yn ôl eu palasau, yn eu terfynau; sef meibion Aaron, o dylwyth y Cohathiaid: oblegid eiddynt hwy ydoedd y rhan hon.

55. A rhoddasant iddynt Hebron yng ngwlad Jwda, a'i meysydd pentrefol o'i hamgylch.

56. Ond meysydd y ddinas, a'i phentrefi, a roddasant hwy i Caleb mab Jeffunne.

57. Ac i feibion Aaron y rhoddasant hwy ddinasoedd Jwda, sef Hebron, y ddinas noddfa, a Libna a'i meysydd pentrefol, a Jattir ac Estemoa, a'u meysydd pentrefol,

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 6