Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 6:4-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Eleasar a genhedlodd Phinees, Phinees a genhedlodd Abisua,

5. Ac Abisua a genhedlodd Bucci, a Bucci a genhedlodd Ussi,

6. Ac Ussi a genhedlodd Seraheia, a Seraheia a genhedlodd Meraioth.

7. Meraioth a genhedlodd Amareia, ac Amareia a genhedlodd Ahitub,

8. Ac Ahitub a genhedlodd Sadoc, a Sadoc a genhedlodd Ahimaas,

9. Ac Ahimaas a genhedlodd Asareia, ac Asareia a genhedlodd Johanan,

10. A Johanan a genhedlodd Asareia; (hwn oedd yn offeiriad yn y tŷ a adeiladodd Solomon yn Jerwsalem:)

11. Ac Asareia a genhedlodd Amareia, ac Amareia a genhedlodd Ahitub,

12. Ac Ahitub a genhedlodd Sadoc, a Sadoc a genhedlodd Salum,

13. A Salum a genhedlodd Hilceia, a Hilceia a genhedlodd Asareia,

14. Ac Asareia a genhedlodd Seraia, a Seraia a genhedlodd Jehosadac:

15. A Jehosadac a ymadawodd, pan gaethgludodd yr Arglwydd Jwda a Jerwsalem trwy law Nebuchodonosor.

16. Meibion Lefi; Gersom, Cohath, a Merari.

17. A dyma enwau meibion Gersom; Libni, a Simei.

18. A meibion Cohath; Amram, ac Ishar, a Hebron, ac Ussiel.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 6