Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 6:27-42 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

27. Eliab ei fab yntau, Jeroham ei fab yntau, Elcana ei fab yntau.

28. A meibion Samuel; y cyntaf‐anedig, Fasni, yna Abeia.

29. Meibion Merari; Mahli, Libni ei fab yntau, Simei ei fab yntau, Ussa ei fab yntau,

30. Simea ei fab yntau, Haggia ei fab yntau, Asaia ei fab yntau.

31. Y rhai hyn a osododd Dafydd yn gantorion yn nhŷ yr Arglwydd, ar ôl gorffwys o'r arch.

32. A hwy a fuant weinidogion mewn cerdd o flaen tabernacl pabell y cyfarfod, nes adeiladu o Solomon dŷ yr Arglwydd yn Jerwsalem: a hwy a safasant wrth eu defod yn eu gwasanaeth.

33. A dyma y rhai a weiniasant, a'u meibion hefyd: o feibion y Cohathiaid; Heman y cantor, mab Joel, fab Semuel,

34. Fab Elcana, fab Jeroham, fab Eliel, fab Toa,

35. Fab Suff, fab Elcana, fab Mahath, fab Amasai,

36. Fab Elcana, fab Joel, fab Asareia, fab Seffaneia,

37. Fab Tahath, fab Assir, fab Ebiasaff, fab Cora,

38. Fab Ishar, fab Cohath, fab Lefi, fab Israel.

39. A'i frawd Asaff, yr hwn oedd yn sefyll ar ei law ddeau, sef Asaff mab Beracheia, fab Simea,

40. Fab Michael, fab Baaseia, fab Malcheia,

41. Fab Ethni, fab Sera, fab Adaia,

42. Fab Ethan, fab Simma, fab Simei,

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 6