Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 6:11-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Ac Asareia a genhedlodd Amareia, ac Amareia a genhedlodd Ahitub,

12. Ac Ahitub a genhedlodd Sadoc, a Sadoc a genhedlodd Salum,

13. A Salum a genhedlodd Hilceia, a Hilceia a genhedlodd Asareia,

14. Ac Asareia a genhedlodd Seraia, a Seraia a genhedlodd Jehosadac:

15. A Jehosadac a ymadawodd, pan gaethgludodd yr Arglwydd Jwda a Jerwsalem trwy law Nebuchodonosor.

16. Meibion Lefi; Gersom, Cohath, a Merari.

17. A dyma enwau meibion Gersom; Libni, a Simei.

18. A meibion Cohath; Amram, ac Ishar, a Hebron, ac Ussiel.

19. Meibion Merari; Mahli, a Musi. A dyma dylwyth y Lefiaid, yn ôl eu tadau.

20. I Gersom; Libni ei fab, Jahath ei fab yntau, Simma ei fab yntau,

21. Joa ei fab yntau, Ido ei fab yntau, Sera ei fab yntau, a Jeaterai ei fab yntau.

22. Meibion Cohath; Aminadab ei fab ef, Cora ei fab yntau, Assir ei fab yntau,

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 6