Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 4:39-43 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

39. A hwy a aethant i flaenau Gedor, hyd at du dwyrain y dyffryn, i geisio porfa i'w praidd.

40. A hwy a gawsant borfa fras, a da, a gwlad eang ei therfynau, a heddychlon a thangnefeddus: canys y rhai a breswyliasent yno o'r blaen oedd o Cham.

41. A'r rhai hyn yn ysgrifenedig erbyn eu henwau a ddaethant yn nyddiau Heseceia brenhin Jwda, ac a drawsant eu pebyll a'r anheddau a gafwyd yno, ac a'u difrodasant hwy hyd y dydd hwn, a thrigasant yn eu lle hwynt; am fod porfa i'w praidd hwynt yno.

42. Ac ohonynt hwy, sef o feibion Simeon, yr aeth pum cant o ddynion i fynydd Seir, a Phelatia, a Nearia, a Reffaia, ac Ussiel, meibion Isi, yn ben arnynt.

43. Trawsant hefyd y gweddill a ddianghasai o Amalec, ac a wladychasant yno hyd y dydd hwn.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 4