Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 4:27-41 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

27. Ac i Simei yr oedd un ar bymtheg o feibion, a chwech o ferched, ond i'w frodyr ef nid oedd nemor o feibion: ac nid amlhasai eu holl deulu hwynt megis meibion Jwda.

28. A hwy a breswyliasant yn Beerseba, a Molada, a Hasar‐sual,

29. Yn Bilha hefyd, ac yn Esem, ac yn Tolad,

30. Ac yn Bethuel, ac yn Horma, ac yn Siclag,

31. Ac yn Beth‐marcaboth, ac yn Hasarsusim, ac yn Beth‐birei, ac yn Saaraim. Dyma eu dinasoedd hwynt, nes teyrnasu o Dafydd.

32. A'u trefydd hwynt oedd, Etam, ac Ain, Rimmon, a Thochen, ac Asan; pump o ddinasoedd.

33. A'u holl bentrefi hwynt hefyd, y rhai oedd o amgylch y dinasoedd hyn hyd Baal. Dyma eu trigfannau hwynt, a'u hachau.

34. A Mesobab, a Jamlech, a Josa mab Amaseia,

35. A Joel, a Jehu mab Josibia, fab Seraia, fab Asiel,

36. Ac Elioenai, a Jaacoba, a Jesohaia, ac Asaia, ac Adiel, a Jesimiel, a Benaia,

37. A Sisa mab Siffi, fab Alon, fab Jedaia, fab Simri, fab Semaia.

38. Y rhai hyn erbyn eu henwau a aethant yn benaethiaid yn eu teuluoedd, ac a amlhasant dylwyth eu tadau yn fawr.

39. A hwy a aethant i flaenau Gedor, hyd at du dwyrain y dyffryn, i geisio porfa i'w praidd.

40. A hwy a gawsant borfa fras, a da, a gwlad eang ei therfynau, a heddychlon a thangnefeddus: canys y rhai a breswyliasent yno o'r blaen oedd o Cham.

41. A'r rhai hyn yn ysgrifenedig erbyn eu henwau a ddaethant yn nyddiau Heseceia brenhin Jwda, ac a drawsant eu pebyll a'r anheddau a gafwyd yno, ac a'u difrodasant hwy hyd y dydd hwn, a thrigasant yn eu lle hwynt; am fod porfa i'w praidd hwynt yno.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 4