16. A meibion Jehaleleel; Siff, a Siffa, Tiria, ac Asareel.
17. A meibion Esra oedd, Jether, a Mered, ac Effer, a Jalon: a hi a ddug Miriam, a Sammai, ac Isba tad Estemoa.
18. A'i wraig ef Jehwdia a ymddûg Jered tad Gedor, a Heber tad Socho, a Jecuthiel tad Sanoa. A dyma feibion Bitheia merch Pharo, yr hon a gymerth Mered.
19. A meibion ei wraig Hodeia, chwaer Naham, tad Ceila y Garmiad, ac Estemoa y Maachathiad.
20. A meibion Simon oedd, Amnon, a Rinna, Benhanan, a Thilon. A meibion Isi oedd, Soheth, a Bensoheth.
21. A meibion Sela mab Jwda oedd, Er tad Lecha, a Laada tad Maresa, a theuluoedd tylwyth gweithyddion lliain main, o dŷ Asbea,
22. A Jocim, a dynion Choseba, a Joas, a Saraff, y rhai oedd yn arglwyddiaethu ar Moab, a Jasubilehem. Ac y mae y pethau hyn yn hen.
23. Y rhai hyn oedd grochenyddion yn cyfanheddu ymysg planwydd a chaeau; gyda'r brenin yr arosasant yno yn ei waith ef.
24. Meibion Simeon oedd, Nemuel, a Jamin, Jarib, Sera, a Saul:
25. Salum ei fab yntau, Mibsam ei fab yntau, Misma ei fab yntau.
26. A meibion Misma; Hamuel ei fab yntau, Sacchur ei fab yntau, Simei ei fab yntau.
27. Ac i Simei yr oedd un ar bymtheg o feibion, a chwech o ferched, ond i'w frodyr ef nid oedd nemor o feibion: ac nid amlhasai eu holl deulu hwynt megis meibion Jwda.
28. A hwy a breswyliasant yn Beerseba, a Molada, a Hasar‐sual,
29. Yn Bilha hefyd, ac yn Esem, ac yn Tolad,
30. Ac yn Bethuel, ac yn Horma, ac yn Siclag,