20. Dywedodd Dafydd hefyd wrth yr holl dyrfa, Bendithiwch, atolwg, yr Arglwydd eich Duw. A'r holl dyrfa a fendithiasant Arglwydd Dduw eu tadau, a blygasant eu pennau, ac a ymgrymasant i'r Arglwydd, ac i'r brenin.
21. Aberthasant hefyd ebyrth i'r Arglwydd, a thrannoeth ar ôl y dydd hwnnw yr aberthasant yn boethoffrymmau i'r Arglwydd, fil o fustych, mil o hyrddod, a mil o ŵyn, a'u diod‐offrymau, ac ebyrth yn lluosog, dros holl Israel:
22. Ac a fwytasant ac a yfasant gerbron yr Arglwydd y diwrnod hwnnw mewn llawenydd mawr. A gosodasant Solomon mab Dafydd yn frenin yr ail waith; ac eneiniasant ef i'r Arglwydd yn flaenor, a Sadoc yn offeiriad.
23. Felly yr eisteddodd Solomon ar orseddfa yr Arglwydd yn frenin, yn lle Dafydd ei dad, ac a lwyddodd; a holl Israel a wrandawsant arno.
24. Yr holl dywysogion hefyd a'r cedyrn, a chyda hynny holl feibion y brenin Dafydd, a roddasant eu dwylo ar fod dan Solomon y brenin.
25. A'r Arglwydd a fawrygodd Solomon yn rhagorol yng ngŵydd holl Israel, ac a roddes iddo ogoniant brenhinol, math yr hwn ni bu i un brenin o'i flaen ef yn Israel.
26. Felly Dafydd mab Jesse a deyrnasodd ar holl Israel.
27. A'r dyddiau y teyrnasodd efe ar Israel oedd ddeugain mlynedd: saith mlynedd y teyrnasodd efe yn Hebron, a thair blynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.
28. Ac efe a fu farw mewn oedran teg, yn gyflawn o ddyddiau, cyfoeth, ac anrhydedd: a Solomon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
29. Ac am weithredoedd cyntaf a diwethaf y brenin Dafydd, wele, y maent yn ysgrifenedig yng ngeiriau Samuel y gweledydd, ac yng ngeiriau Nathan y proffwyd, ac yng ngeiriau Gad y gweledydd,
30. Gyda'i holl frenhiniaeth ef, a'i gadernid, a'r amserau a aethant drosto ef, a thros Israel, a thros holl deyrnasoedd y gwledydd.