Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 29:18-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. Arglwydd Dduw Abraham, Isaac, ac Israel, ein tadau, cadw hyn yn dragywydd ym mryd meddyliau calon dy bobl; a pharatoa eu calon hwynt atat ti.

19. A dyro i Solomon fy mab galon berffaith, i gadw dy orchmynion, dy dystiolaethau, a'th ddeddfau, ac i'w gwneuthur hwynt oll, ac i adeiladu y llys yr hwn y darperais iddo.

20. Dywedodd Dafydd hefyd wrth yr holl dyrfa, Bendithiwch, atolwg, yr Arglwydd eich Duw. A'r holl dyrfa a fendithiasant Arglwydd Dduw eu tadau, a blygasant eu pennau, ac a ymgrymasant i'r Arglwydd, ac i'r brenin.

21. Aberthasant hefyd ebyrth i'r Arglwydd, a thrannoeth ar ôl y dydd hwnnw yr aberthasant yn boethoffrymmau i'r Arglwydd, fil o fustych, mil o hyrddod, a mil o ŵyn, a'u diod‐offrymau, ac ebyrth yn lluosog, dros holl Israel:

22. Ac a fwytasant ac a yfasant gerbron yr Arglwydd y diwrnod hwnnw mewn llawenydd mawr. A gosodasant Solomon mab Dafydd yn frenin yr ail waith; ac eneiniasant ef i'r Arglwydd yn flaenor, a Sadoc yn offeiriad.

23. Felly yr eisteddodd Solomon ar orseddfa yr Arglwydd yn frenin, yn lle Dafydd ei dad, ac a lwyddodd; a holl Israel a wrandawsant arno.

24. Yr holl dywysogion hefyd a'r cedyrn, a chyda hynny holl feibion y brenin Dafydd, a roddasant eu dwylo ar fod dan Solomon y brenin.

25. A'r Arglwydd a fawrygodd Solomon yn rhagorol yng ngŵydd holl Israel, ac a roddes iddo ogoniant brenhinol, math yr hwn ni bu i un brenin o'i flaen ef yn Israel.

26. Felly Dafydd mab Jesse a deyrnasodd ar holl Israel.

27. A'r dyddiau y teyrnasodd efe ar Israel oedd ddeugain mlynedd: saith mlynedd y teyrnasodd efe yn Hebron, a thair blynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 29