Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 29:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna y dywedodd Dafydd y brenin wrth yr holl dyrfa, Duw a ddewisodd yn unig fy mab Solomon, ac y mae efe yn ieuanc, ac yn dyner, a'r gwaith sydd fawr; canys nid i ddyn y mae y llys, ond i'r Arglwydd Dduw.

2. Ac â'm holl gryfder y paratoais i dŷ fy Nuw, aur i'r gwaith aur, ac arian i'r arian, a phres i'r pres, a haearn i'r haearn, a choed i'r gwaith coed; meini onics, a meini gosod, meini carbunculus, ac o amryw liw, a phob maen gwerthfawr, a meini marmor yn aml.

3. Ac eto am fod fy ewyllys tua thŷ fy Nuw, y mae gennyf o'm heiddo fy hun, aur ac arian, yr hwn a roddaf tuag at dŷ fy Nuw; heblaw yr hyn oll a baratoais tua'r tŷ sanctaidd:

4. Tair mil o dalentau aur, o aur Offir; a saith mil o dalentau arian puredig, i oreuro parwydydd y tai:

5. Yr aur i'r gwaith aur, a'r arian i'r arian; a thuag at yr holl waith, trwy law y rhai celfydd. Pwy hefyd a ymrŷdd yn ewyllysgar i ymgysegru heddiw i'r Arglwydd?

6. Yna tywysogion y teuluoedd, a thywysogion llwythau Israel, a thywysogion y miloedd a'r cannoedd, a swyddogion gwaith y brenin, a offrymasant yn ewyllysgar,

7. Ac a roddasant tuag at wasanaeth tŷ Dduw, bum mil o dalentau aur, a deng mil o sylltau, a deng mil o dalentau arian, a deunaw mil o dalentau pres, a chan mil o dalentau haearn.

8. A chyda'r hwn y ceid meini, hwy a'u rhoddasant i drysor tŷ yr Arglwydd, trwy law Jehiel y Gersoniad.

9. A'r bobl a lawenhasant pan offryment o'u gwirfodd; am eu bod â chalon berffaith yn ewyllysgar yn offrymu i'r Arglwydd: a Dafydd y brenin hefyd a lawenychodd â llawenydd mawr.

10. Yna y bendithiodd Dafydd yr Arglwydd yng ngŵydd yr holl dyrfa, a dywedodd Dafydd, Bendigedig wyt ti, Arglwydd Dduw Israel, ein tad ni, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 29