7. A'r coelbren cyntaf a ddaeth i Jehoiarib, a'r ail i Jedaia,
8. Y trydydd i Harim, y pedwerydd i Seorim,
9. Y pumed i Malcheia, y chweched i Mijamin,
10. Y seithfed i Haccos, yr wythfed i Abeia,
11. Y nawfed i Jesua, y degfed i Sechaneia,
12. Yr unfed ar ddeg i Eliasib, y deuddegfed i Jacim,
13. Y trydydd ar ddeg i Huppa, y pedwerydd ar ddeg i Jesebeab,
14. Y pymthegfed i Bilga, yr unfed ar bymtheg i Immer,
15. Y ddeufed ar bymtheg i Hesir, y deunawfed i Affses,
16. Y pedwerydd ar bymtheg i Pethaheia, yr ugeinfed i Jehesecel,
17. Yr unfed ar hugain i Jachin, y ddeufed ar hugain i Gamul,
18. Y trydydd ar hugain i Delaia, y pedwerydd ar hugain i Maaseia.
19. Dyma eu dosbarthiadau hwynt yn eu gwasanaeth, i fyned i dŷ yr Arglwydd yn ôl eu defod, dan law Aaron eu tad, fel y gorchmynasai Arglwydd Dduw Israel iddo ef.
20. A'r lleill o feibion Lefi oedd y rhai hyn. O feibion Amram; Subael: o feibion Subael; Jehdeia.
21. Am Rehabia; Isia oedd ben ar feibion Rehabia.