17. Yr unfed ar hugain i Jachin, y ddeufed ar hugain i Gamul,
18. Y trydydd ar hugain i Delaia, y pedwerydd ar hugain i Maaseia.
19. Dyma eu dosbarthiadau hwynt yn eu gwasanaeth, i fyned i dŷ yr Arglwydd yn ôl eu defod, dan law Aaron eu tad, fel y gorchmynasai Arglwydd Dduw Israel iddo ef.
20. A'r lleill o feibion Lefi oedd y rhai hyn. O feibion Amram; Subael: o feibion Subael; Jehdeia.
21. Am Rehabia; Isia oedd ben ar feibion Rehabia.
22. O'r Ishariaid; Selomoth: o feibion Selomoth; Jahath.
23. A meibion Hebron oedd, Jereia y cyntaf, Amareia yr ail, Jahasiel y trydydd, a Jecameam y pedwerydd.
24. O feibion Ussiel; Micha: o feibion Micha; Samir.
25. Brawd Micha oedd Isia; o feibion Isia; Sechareia.
26. Meibion Merari oedd, Mahli a Musi: meibion Jaasei; Beno.
27. Meibion Merari o Jaaseia; Beno, a Soham, a Saccur, ac Ibri.
28. O Mahli y daeth Eleasar, ac ni bu iddo ef feibion.
29. Am Cis: mab Cis oedd Jerahmeel.
30. A meibion Musi oedd, Mahli, ac Eder, a Jerimoth. Dyma feibion y Lefiaid yn ôl tŷ eu tadau.
31. A hwy a fwriasant goelbrennau ar gyfer eu brodyr meibion Aaron, gerbron Dafydd y brenin, a Sadoc, ac Ahimelech, a phennau‐cenedl yr offeiriaid a'r Lefiaid; ie, y pencenedl ar gyfer y brawd ieuangaf.