Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 24:15-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Y ddeufed ar bymtheg i Hesir, y deunawfed i Affses,

16. Y pedwerydd ar bymtheg i Pethaheia, yr ugeinfed i Jehesecel,

17. Yr unfed ar hugain i Jachin, y ddeufed ar hugain i Gamul,

18. Y trydydd ar hugain i Delaia, y pedwerydd ar hugain i Maaseia.

19. Dyma eu dosbarthiadau hwynt yn eu gwasanaeth, i fyned i dŷ yr Arglwydd yn ôl eu defod, dan law Aaron eu tad, fel y gorchmynasai Arglwydd Dduw Israel iddo ef.

20. A'r lleill o feibion Lefi oedd y rhai hyn. O feibion Amram; Subael: o feibion Subael; Jehdeia.

21. Am Rehabia; Isia oedd ben ar feibion Rehabia.

22. O'r Ishariaid; Selomoth: o feibion Selomoth; Jahath.

23. A meibion Hebron oedd, Jereia y cyntaf, Amareia yr ail, Jahasiel y trydydd, a Jecameam y pedwerydd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 24