7. A bu ddrwg y peth hyn yng ngolwg Duw, ac efe a drawodd Israel.
8. A Dafydd a ddywedodd wrth Dduw, Pechais yn ddirfawr, oherwydd i mi wneuthur y peth hyn: ac yr awr hon, dilea, atolwg, anwiredd dy was, canys gwneuthum yn ynfyd iawn.
9. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Gad, gweledydd Dafydd, gan ddywedyd,
10. Dos, a llefara wrth Dafydd, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Tri pheth yr ydwyf fi yn eu gosod o'th flaen di; dewis i ti un ohonynt, a mi a'i gwnaf i ti.
11. Yna Gad a ddaeth at Dafydd, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Cymer i ti.
12. Naill ai tair blynedd o newyn; ai dy ddifetha dri mis o flaen dy wrthwynebwyr, a chleddyf dy elynion yn dy oddiweddyd; ai ynteu cleddyf yr Arglwydd, sef haint y nodau, yn y tir dri diwrnod, ac angel yr Arglwydd yn dinistrio trwy holl derfynau Israel. Ac yr awr hon edrych pa air a ddygaf drachefn i'r hwn a'm hanfonodd.
13. A Dafydd a ddywedodd wrth Gad, Y mae yn gyfyng iawn arnaf fi; syrthiwyf, atolwg, yn llaw yr Arglwydd, canys ei drugareddau ef ydynt aml iawn, ac na syrthiwyf yn llaw dyn.
14. Yna y rhoddes yr Arglwydd haint y nodau ar Israel: a syrthiodd o Israel ddeng mil a thrigain mil o wŷr.