20. Yna y trodd Ornan, ac a ganfu yr angel, a'i bedwar mab gydag ef a ymguddiasant; ac Ornan oedd yn dyrnu gwenith.
21. A Dafydd a ddaeth at Ornan; ac edrychodd Ornan, ac a ganfu Dafydd, ac a aeth allan o'r llawr dyrnu, ac a ymgrymodd i Dafydd, â'i wyneb tua'r ddaear.
22. A dywedodd Dafydd wrth Ornan, Moes i mi le y llawr dyrnu, fel yr adeiladwyf ynddo allor i'r Arglwydd: dyro ef i mi am ei lawn werth; fel yr atalier y pla oddi wrth y bobl.
23. Ac Ornan a ddywedodd wrth Dafydd, Cymer i ti, a gwnaed fy arglwydd frenin yr hyn fyddo da yn ei olwg. Wele, rhoddaf yr ychen yn boethoffrwm, a'r offer dyrnu yn gynnud, a'r gwenith yn fwyd‐offrwm: hyn oll a roddaf.
24. A'r brenin Dafydd a ddywedodd wrth Ornan, Nid felly, ond gan brynu y prynaf ef am ei lawn werth: canys ni chymeraf i'r Arglwydd yr eiddot ti, ac nid offrymaf boethoffrwm yn rhad.
25. Felly y rhoddes Dafydd i Ornan am y lle chwe chan sicl o aur wrth bwys.
26. Ac yno yr adeiladodd Dafydd allor i'r Arglwydd, ac a offrymodd boethoffrymau, ac ebyrth hedd, ac a alwodd ar yr Arglwydd; ac efe a'i hatebodd ef o'r nefoedd trwy dân ar allor y poethoffrwm.
27. A dywedodd yr Arglwydd wrth yr angel; ac yntau a roes ei gleddyf yn ei wain drachefn.