Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 21:19-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. A Dafydd a aeth i fyny, yn ôl gair Gad, yr hwn a lefarasai efe yn enw yr Arglwydd.

20. Yna y trodd Ornan, ac a ganfu yr angel, a'i bedwar mab gydag ef a ymguddiasant; ac Ornan oedd yn dyrnu gwenith.

21. A Dafydd a ddaeth at Ornan; ac edrychodd Ornan, ac a ganfu Dafydd, ac a aeth allan o'r llawr dyrnu, ac a ymgrymodd i Dafydd, â'i wyneb tua'r ddaear.

22. A dywedodd Dafydd wrth Ornan, Moes i mi le y llawr dyrnu, fel yr adeiladwyf ynddo allor i'r Arglwydd: dyro ef i mi am ei lawn werth; fel yr atalier y pla oddi wrth y bobl.

23. Ac Ornan a ddywedodd wrth Dafydd, Cymer i ti, a gwnaed fy arglwydd frenin yr hyn fyddo da yn ei olwg. Wele, rhoddaf yr ychen yn boethoffrwm, a'r offer dyrnu yn gynnud, a'r gwenith yn fwyd‐offrwm: hyn oll a roddaf.

24. A'r brenin Dafydd a ddywedodd wrth Ornan, Nid felly, ond gan brynu y prynaf ef am ei lawn werth: canys ni chymeraf i'r Arglwydd yr eiddot ti, ac nid offrymaf boethoffrwm yn rhad.

25. Felly y rhoddes Dafydd i Ornan am y lle chwe chan sicl o aur wrth bwys.

26. Ac yno yr adeiladodd Dafydd allor i'r Arglwydd, ac a offrymodd boethoffrymau, ac ebyrth hedd, ac a alwodd ar yr Arglwydd; ac efe a'i hatebodd ef o'r nefoedd trwy dân ar allor y poethoffrwm.

27. A dywedodd yr Arglwydd wrth yr angel; ac yntau a roes ei gleddyf yn ei wain drachefn.

28. Y pryd hwnnw, pan ganfu Dafydd ddarfod i'r Arglwydd wrando arno ef yn llawr dyrnu Ornan y Jebusiad, efe a aberthodd yno.

29. Ond tabernacl yr Arglwydd, yr hon a wnaethai Moses yn yr anialwch, ac allor y poethoffrwm, oedd y pryd hwnnw yn yr uchelfa yn Gibeon:

30. Ac ni allai Dafydd fyned o'i blaen hi i ymofyn â Duw; canys ofnasai rhag cleddyf angel yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 21