18. Yna angel yr Arglwydd a archodd i Gad ddywedyd wrth Dafydd, am fyned o Dafydd i fyny i gyfodi allor i'r Arglwydd yn llawr dyrnu Ornan y Jebusiad.
19. A Dafydd a aeth i fyny, yn ôl gair Gad, yr hwn a lefarasai efe yn enw yr Arglwydd.
20. Yna y trodd Ornan, ac a ganfu yr angel, a'i bedwar mab gydag ef a ymguddiasant; ac Ornan oedd yn dyrnu gwenith.
21. A Dafydd a ddaeth at Ornan; ac edrychodd Ornan, ac a ganfu Dafydd, ac a aeth allan o'r llawr dyrnu, ac a ymgrymodd i Dafydd, â'i wyneb tua'r ddaear.
22. A dywedodd Dafydd wrth Ornan, Moes i mi le y llawr dyrnu, fel yr adeiladwyf ynddo allor i'r Arglwydd: dyro ef i mi am ei lawn werth; fel yr atalier y pla oddi wrth y bobl.
23. Ac Ornan a ddywedodd wrth Dafydd, Cymer i ti, a gwnaed fy arglwydd frenin yr hyn fyddo da yn ei olwg. Wele, rhoddaf yr ychen yn boethoffrwm, a'r offer dyrnu yn gynnud, a'r gwenith yn fwyd‐offrwm: hyn oll a roddaf.
24. A'r brenin Dafydd a ddywedodd wrth Ornan, Nid felly, ond gan brynu y prynaf ef am ei lawn werth: canys ni chymeraf i'r Arglwydd yr eiddot ti, ac nid offrymaf boethoffrwm yn rhad.