Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 19:8-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. A phan glybu Dafydd, efe a anfonodd Joab, a holl lu y cedyrn.

9. A meibion Ammon a aethant allan, ac a ymfyddinasant wrth borth y ddinas: a'r brenhinoedd y rhai a ddaethai oedd o'r neilltu yn y maes.

10. A phan ganfu Joab fod wyneb y rhyfel yn ei erbyn ef ymlaen ac yn ôl, efe a etholodd o holl etholedigion Israel, ac a'u byddinodd hwynt yn erbyn y Syriaid.

11. A gweddill y bobl a roddes efe dan law Abisai ei frawd; a hwy a ymfyddinasant yn erbyn meibion Ammon.

12. Ac efe a ddywedodd, Os trech fydd y Syriaid na mi, yna bydd di yn gynhorthwy i mi: ond os meibion Ammon a fyddant drech na thi, yna mi a'th gynorthwyaf dithau.

13. Bydd rymus, ac ymwrolwn dros ein pobl, a thros ddinasoedd ein Duw; a gwnaed yr Arglwydd yr hyn fyddo da yn ei olwg ef.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 19