7. A chyflogasant iddynt ddeuddeng mil ar hugain o gerbydau, a brenin Maacha a'i bobl; y rhai a ddaethant, ac a wersyllasant o flaen Medeba. A meibion Ammon hefyd a ymgasglasant o'u dinasoedd, ac a ddaethant i ryfel.
8. A phan glybu Dafydd, efe a anfonodd Joab, a holl lu y cedyrn.
9. A meibion Ammon a aethant allan, ac a ymfyddinasant wrth borth y ddinas: a'r brenhinoedd y rhai a ddaethai oedd o'r neilltu yn y maes.
10. A phan ganfu Joab fod wyneb y rhyfel yn ei erbyn ef ymlaen ac yn ôl, efe a etholodd o holl etholedigion Israel, ac a'u byddinodd hwynt yn erbyn y Syriaid.
11. A gweddill y bobl a roddes efe dan law Abisai ei frawd; a hwy a ymfyddinasant yn erbyn meibion Ammon.
12. Ac efe a ddywedodd, Os trech fydd y Syriaid na mi, yna bydd di yn gynhorthwy i mi: ond os meibion Ammon a fyddant drech na thi, yna mi a'th gynorthwyaf dithau.
13. Bydd rymus, ac ymwrolwn dros ein pobl, a thros ddinasoedd ein Duw; a gwnaed yr Arglwydd yr hyn fyddo da yn ei olwg ef.
14. Yna y nesaodd Joab a'r bobl oedd gydag ef, yn erbyn y Syriaid i'r rhyfel; a hwy a ffoesant o'i flaen ef.