Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 17:4-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Dos, a dywed wrth Dafydd fy ngwas, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Nid adeiledi di i mi dŷ i breswylio ynddo.

5. Canys ni phreswyliais i mewn tŷ er y dydd y dygais i fyny Israel hyd y dydd hwn, ond bûm o babell i babell, ac o dabernacl bwygilydd.

6. Ym mha le bynnag y rhodiais gyda holl Israel, a yngenais i air wrth un o farnwyr Israel, i'r rhai y gorchmynaswn borthi fy mhobl, gan ddywedyd, Paham nad adeiladasoch i mi dŷ o gedrwydd?

7. Ac yr awr hon fel hyn y dywedi wrth Dafydd fy ngwas, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Myfi a'th gymerais di o'r gorlan, oddi ar ôl y praidd, i fod yn dywysog ar fy mhobl Israel.

8. A bûm gyda thi, i ba le bynnag y rhodiaist, torrais ymaith hefyd dy holl elynion o'th flaen, a gwneuthum enw i ti megis enw y gwŷr mawr sydd ar y ddaear.

9. Gosodaf hefyd i'm pobl Israel le, ac a'u plannaf, a hwy a drigant yn eu lle, ac ni symudir hwynt mwyach; a meibion anwiredd ni chwanegant eu cystuddio, megis yn y cyntaf,

10. Ac er y dyddiau y gorchmynnais i farnwyr fod ar fy mhobl Israel; darostyngaf hefyd dy holl elynion di, a mynegaf i ti yr adeilada yr Arglwydd i ti dŷ.

11. A bydd pan gyflawner dy ddyddiau di i fyned at dy dadau, y cyfodaf dy had ar dy ôl di, yr hwn a fydd o'th feibion di, a mi a sicrhaf ei deyrnas ef.

12. Efe a adeilada i mi dŷ, a minnau a sicrhaf ei deyrngadair ef byth.

13. Myfi a fyddaf iddo ef yn dad, ac yntau fydd i mi yn fab, a'm trugaredd ni thynnaf oddi wrtho ef, megis y tynnais oddi wrth yr hwn a fu o'th flaen di.

14. Ond mi a'i gosodaf ef yn fy nhŷ, ac yn fy nheyrnas byth; a'i deyrngadair ef a sicrheir byth.

15. Yn ôl yr holl eiriau hyn, ac yn ôl yr holl weledigaeth hon, felly y llefarodd Nathan wrth Dafydd.

16. A daeth Dafydd y brenin, ac a eisteddodd gerbron yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Pwy ydwyf fi, O Arglwydd Dduw, a pheth yw fy nhŷ, pan ddygit fi hyd yma?

17. Eto bychan yw hyn yn dy olwg di, O Dduw; canys dywedaist am dŷ dy was dros hir o amser, a thi a edrychaist arnaf, O Arglwydd Dduw, fel ar gyflwr dyn uchelradd.

18. Pa beth a chwanega Dafydd ei ddywedyd wrthyt mwyach am anrhydedd dy was? canys ti a adwaenost dy was.

19. O Arglwydd, er mwyn dy was, ac yn ôl dy feddwl dy hun, y gwnaethost yr holl fawredd hyn, i ddangos pob mawredd.

20. O Arglwydd, nid oes neb fel tydi, ac nid oes Duw ond tydi, yn ôl yr hyn oll a glywsom â'n clustiau.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 17