Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 17:18-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. Pa beth a chwanega Dafydd ei ddywedyd wrthyt mwyach am anrhydedd dy was? canys ti a adwaenost dy was.

19. O Arglwydd, er mwyn dy was, ac yn ôl dy feddwl dy hun, y gwnaethost yr holl fawredd hyn, i ddangos pob mawredd.

20. O Arglwydd, nid oes neb fel tydi, ac nid oes Duw ond tydi, yn ôl yr hyn oll a glywsom â'n clustiau.

21. A pha un genedl ar y ddaear sydd megis dy bobl Israel, yr hon yr aeth Duw i'w gwaredu yn bobl iddo ei hun, i osod i ti enw mawr ac ofnadwy, gan fwrw allan genhedloedd o flaen dy bobl, y rhai a waredaist ti o'r Aifft?

22. Ti hefyd a wnaethost dy bobl Israel yn bobl i ti byth: a thi, Arglwydd, a aethost yn Dduw iddynt hwy.

23. Am hynny yr awr hon, Arglwydd, y gair a leferaist am dy was, ac am ei dŷ ef, poed sicr fyddo byth: gwna fel y lleferaist.

24. A phoed sicr fyddo, fel y mawrhaer dy enw yn dragywydd, gan ddywedyd, Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, sydd Dduw i Israel: a bydded tŷ Dafydd dy was yn sicr ger dy fron di.

25. Canys ti, O fy Nuw, a ddywedaist i'th was, yr adeiladit ti dŷ iddo ef: am hynny y cafodd dy was weddïo ger dy fron di.

26. Ac yr awr hon, Arglwydd, ti ydwyt Dduw, a thi a leferaist am dŷ dy was, y daioni hwn;

27. Yn awr gan hynny bid wiw gennyt fendigo tŷ dy was, i fod ger dy fron yn dragywydd: am i ti, O Arglwydd, ei fendigo, bendigedig fydd yn dragywydd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 17