Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 15:6-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. O feibion Merari; Asaia y pennaf, a'i frodyr, dau cant ac ugain.

7. O feibion Gersom; Joel y pennaf, a'i frodyr, cant a deg ar hugain.

8. O feibion Elisaffan; Semaia y pennaf, a'i frodyr, dau cant.

9. O feibion Hebron; Eliel y pennaf, a'i frodyr, pedwar ugain.

10. O feibion Ussiel; Amminadab y pennaf, a'i frodyr, cant a deuddeg.

11. A Dafydd a alwodd am Sadoc ac am Abiathar yr offeiriaid, ac am y Lefiaid, am Uriel, Asaia, a Joel, Semaia, ac Eliel, ac Amminadab,

12. Ac a ddywedodd wrthynt, Chwi sydd bennau‐cenedl ymhlith y Lefiaid: ymsancteiddiwch chwi a'ch brodyr, fel y dygoch i fyny arch Arglwydd Dduw Israel i'r lle a baratoais iddi hi.

13. Oherwydd nas gwnaethoch o'r dechreuad, y torrodd yr Arglwydd ein Duw arnom ni, oblegid na cheisiasom ef yn y modd y dylasem.

14. Felly yr offeiriaid a'r Lefiaid a ymsancteiddiasant i ddwyn i fyny arch Arglwydd Dduw Israel.

15. A meibion y Lefiaid a ddygasant arch Duw ar eu hysgwyddau, wrth drosolion, megis y gorchmynnodd Moses, yn ôl gair yr Arglwydd.

16. A Dafydd a ddywedodd wrth dywysogion y Lefiaid, ar iddynt osod eu brodyr y cerddorion i leisio ag offer cerdd, nablau, a thelynau, a symbalau, yn lleisio gan ddyrchafu llef mewn gorfoledd.

17. Felly y Lefiaid a osodasant Heman mab Joel; ac o'i frodyr ef Asaff mab Berecheia; ac o feibion Merari eu brodyr, Ethan mab Cusaia.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 15