13. Oherwydd nas gwnaethoch o'r dechreuad, y torrodd yr Arglwydd ein Duw arnom ni, oblegid na cheisiasom ef yn y modd y dylasem.
14. Felly yr offeiriaid a'r Lefiaid a ymsancteiddiasant i ddwyn i fyny arch Arglwydd Dduw Israel.
15. A meibion y Lefiaid a ddygasant arch Duw ar eu hysgwyddau, wrth drosolion, megis y gorchmynnodd Moses, yn ôl gair yr Arglwydd.
16. A Dafydd a ddywedodd wrth dywysogion y Lefiaid, ar iddynt osod eu brodyr y cerddorion i leisio ag offer cerdd, nablau, a thelynau, a symbalau, yn lleisio gan ddyrchafu llef mewn gorfoledd.
17. Felly y Lefiaid a osodasant Heman mab Joel; ac o'i frodyr ef Asaff mab Berecheia; ac o feibion Merari eu brodyr, Ethan mab Cusaia.
18. A chyda hwynt eu brodyr o'r ail radd, Sechareia, Ben, a Jaasiel, a Semiramoth, a Jehiel, ac Unni, Eliab, a Benaia, a Maaseia, a Matitheia, ac Eliffele, a Micneia, ac Obed‐edom, a Jehiel, y porthorion.
19. Felly Heman, Asaff, ac Ethan, y cerddorion, oeddynt i leisio â symbalau pres.
20. A Sechareia, ac Asiel, a Semiramoth, a Jehiel, ac Unni, ac Eliab, a Maaseia, a Benaia, a ganent nablau ar Alamoth.
21. A Matitheia, ac Eliffele, a Micneia, ac Obed‐edom, a Jehiel, ac Asaseia, oeddynt â thelynau ar y Seminith i ragori.
22. Chenaneia hefyd oedd flaenor y Lefiaid ar y gân: efe a ddysgai eraill am y gân, canys cyfarwydd ydoedd.
23. A Berecheia ac Elcana oedd borthorion i'r arch.
24. A Sebaneia, a Jehosaffat, a Nathaneel, ac Amasai, a Sechareia, a Benaia, ac Elieser, yr offeiriaid, oedd yn lleisio mewn utgyrn o flaen arch Duw: Obed‐edom hefyd a Jeheia oedd borthorion i'r arch.
25. Felly Dafydd a henuriaid Israel, a thywysogion y miloedd, a aethant i ddwyn i fyny arch cyfamod yr Arglwydd o dŷ Obed‐edom mewn llawenydd.
26. A phan gynorthwyodd Duw y Lefiaid oedd yn dwyn arch cyfamod yr Arglwydd, hwy a offrymasant saith o fustych, a saith o hyrddod.
27. A Dafydd oedd wedi ymwisgo mewn gwisg o liain main; a'r holl Lefiaid, y rhai oedd yn dwyn yr arch, a'r cantorion, Chenaneia hefyd meistr y gân, a'r cerddorion. Ac am Dafydd yr oedd effod liain.