Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 13:7-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. A hwy a ddygasant arch Duw ar fen newydd o dŷ Abinadab: ac Ussa ac Ahïo oedd yn gyrru y fen.

8. A Dafydd a holl Israel oedd yn chwarae gerbron Duw, â'u holl nerth, ac â chaniadau, ac â thelynau, ac â nablau, ac â thympanau, ac â symbalau, ac ag utgyrn.

9. A phan ddaethant hyd lawr dyrnu Cidon, Ussa a estynnodd ei law i ddala yr arch, canys yr ychen oedd yn ei hysgwyd hi.

10. Ac enynnodd llid yr Arglwydd yn erbyn Ussa, ac efe a'i lladdodd ef, oblegid iddo estyn ei law at yr arch; ac yno y bu efe farw gerbron Duw.

11. A bu ddrwg gan Dafydd am i'r Arglwydd rwygo rhwygiad yn Ussa; ac efe a alwodd y lle hwnnw Peres‐ussa, hyd y dydd hwn.

12. A Dafydd a ofnodd Dduw y dydd hwnnw, gan ddywedyd, Pa fodd y dygaf arch Duw i mewn ataf fi?

13. Ac ni ddug Dafydd yr arch ato ei hun i ddinas Dafydd, ond efe a'i cludodd hi i dŷ Obed‐edom y Gethiad.

14. Ac arch Duw a arhosodd gyda theulu Obed‐edom, yn ei dŷ ef, dri mis. A'r Arglwydd a fendithiodd dŷ Obed‐edom, a'r hyn oll ydoedd eiddo.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 13