Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 13:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Dafydd a ymgynghorodd â chapteiniaid y miloedd a'r cannoedd, ac â'r holl dywysogion.

2. A Dafydd a ddywedodd wrth holl gynulleidfa Israel, Os da gennych chwi, a bod hyn o'r Arglwydd ein Duw, danfonwn ar led at ein brodyr y rhai a weddillwyd trwy holl diroedd Israel, a chyda hwynt at yr offeiriaid a'r Lefiaid o fewn eu dinasoedd a'u meysydd pentrefol, i'w cynnull hwynt atom ni.

3. A dygwn drachefn arch ein Duw atom ni; canys nid ymofynasom â hi yn nyddiau Saul.

4. A'r holl dyrfa a ddywedasant am wneuthur felly: canys uniawn oedd y peth yng ngolwg yr holl bobl.

5. Felly y casglodd Dafydd holl Israel ynghyd, o Sihor yr Aifft, hyd y ffordd y delir i Hamath, i ddwyn arch Duw o Ciriath‐jearim.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 13