7. A meibion Jafan; Elisa, a Tharsis, Cittim, a Dodanim.
8. Meibion Cham; Cus, a Misraim, Put, a Chanaan.
9. A meibion Cus; Seba, a Hafila, a Sabta, a Raama, a Sabtecha: a Seba, a Dedan, meibion Raama.
10. A Chus a genhedlodd Nimrod: hwn a ddechreuodd fod yn gadarn ar y ddaear.
11. A Misraim a genhedlodd Ludim, ac Anamim, a Lehabim, a Nafftuhim,
12. Pathrusim hefyd, a Chasluhim, (y rhai y daeth y Philistiaid allan ohonynt,) a Chafftorim.
13. A Chanaan a genhedlodd Sidon ei gyntafâanedig, a Heth,
14. Y Jebusiad hefyd, a'r Amoriad, a'r Girgasiad,
15. A'r Hefiad, a'r Arciad, a'r Siniad,
16. A'r Arfadiad, a'r Semariad, a'r Hamathiad.
17. Meibion Sem; Elam, ac Assur, ac Arffacsad, a Lud, ac Aram, ac Us, a Hul, a Gether, a Mesech.
18. Ac Arffacsad a genhedlodd Sela, a Sela a genhedlodd Eber.
19. Ac i Eber y ganwyd dau o feibion: enw y naill ydoedd Peleg; oherwydd mai yn ei ddyddiau ef y rhannwyd y ddaear: ac enw ei frawd oedd Joctan.