Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 1:41-54 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

41. Meibion Ana; Dison. A meibion Dison; Amram, ac Esban, ac Ithran, a Cheran.

42. Meibion Eser; Bilhan, a Safan, a Jacan. Meibion Dison; Us, ac Aran.

43. Dyma hefyd y brenhinoedd a deyrnasasant yn nhir Edom, cyn teyrnasu o frenin ar feibion Israel; Bela mab Beor: ac enw ei ddinas ef oedd Dinhaba.

44. A phan fu farw Bela, y teyrnasodd yn ei le ef Jobab mab Sera o Bosra.

45. A phan fu farw Jobab, Husam o wlad y Temaniaid a deyrnasodd yn ei le ef.

46. A phan fu farw Husam, yn ei le ef y teyrnasodd Hadad mab Bedad, yr hwn a drawodd Midian ym maes Moab: ac enw ei ddinas ef ydoedd Afith.

47. A phan fu farw Hadad, y teyrnasodd yn ei le ef Samla o Masreca.

48. A phan fu farw Samla, Saul o Rehoboth wrth yr afon a deyrnasodd yn ei le ef.

49. A phan fu farw Saul, y teyrnasodd yn ei le ef Baalhanan mab Achbor.

50. A bu farw Baalhanan, a theyrnasodd yn ei le ef Hadad: ac enw ei ddinas ef oedd Pai; ac enw ei wraig ef Mehetabel, merch Matred, merch Mesahab.

51. A bu farw Hadad. A dugiaid Edom oedd; dug Timna, dug Alia, dug Jetheth,

52. Dug Aholibama, dug Ela, dug Pinon,

53. Dug Cenas, dug Teman, dug Mibsar,

54. Dug Magdiel, dug Iram. Dyma ddugiaid Edom.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 1