32. A meibion Cetura, gordderchwraig Abraham: hi a ymddûg Simran, a Jocsan, a Medan, a Midian, ac Isbac, a Sua. A meibion Jocsan; Seba, a Dedan.
33. A meibion Midian; Effa, ac Effer, a Henoch, ac Abida, ac Eldaa: y rhai hyn oll oedd feibion Cetura.
34. Ac Abraham a genhedlodd Isaac. Meibion Isaac; Esau, ac Israel.
35. Meibion Esau; Eliffas, Reuel, a Jëus, a Jaalam, a Chora.
36. Meibion Eliffas; Teman, ac Omar, Seffi, a Gatam, Cenas, a Thimna, ac Amalec.
37. Meibion Reuel; Nahath, Sera, Samma, a Missa.
38. A meibion Seir; Lotan, a Sobal, a Sibeon, ac Ana, a Dison, ac Eser, a Disan.
39. A meibion Lotan; Hori, a Homam: a chwaer Lotan oedd Timna.
40. Meibion Sobal; Alïan, a Manahath, ac Ebal, Seffi, ac Onam. A meibion Sibeon; Aia, ac Ana.
41. Meibion Ana; Dison. A meibion Dison; Amram, ac Esban, ac Ithran, a Cheran.
42. Meibion Eser; Bilhan, a Safan, a Jacan. Meibion Dison; Us, ac Aran.
43. Dyma hefyd y brenhinoedd a deyrnasasant yn nhir Edom, cyn teyrnasu o frenin ar feibion Israel; Bela mab Beor: ac enw ei ddinas ef oedd Dinhaba.
44. A phan fu farw Bela, y teyrnasodd yn ei le ef Jobab mab Sera o Bosra.