23. Offir hefyd, a Hafila, a Jobab. Y rhai hyn oll oedd feibion Joctan.
24. Sem, Arffacsad, Sela,
25. Eber, Peleg, Reu,
26. Serug, Nachor, Tera,
27. Abram, hwnnw yw Abraham.
28. Meibion Abraham; Isaac, ac Ismael.
29. Dyma eu cenedlaethau hwynt: cyntaf‐anedig Ismael oedd Nebaioth, yna Cedar, ac Adbeel, a Mibsam,
30. Misma, a Duma, Massa, Hadad, a Thema,
31. Jetur, Naffis, a Chedema. Dyma feibion Ismael.
32. A meibion Cetura, gordderchwraig Abraham: hi a ymddûg Simran, a Jocsan, a Medan, a Midian, ac Isbac, a Sua. A meibion Jocsan; Seba, a Dedan.
33. A meibion Midian; Effa, ac Effer, a Henoch, ac Abida, ac Eldaa: y rhai hyn oll oedd feibion Cetura.
34. Ac Abraham a genhedlodd Isaac. Meibion Isaac; Esau, ac Israel.
35. Meibion Esau; Eliffas, Reuel, a Jëus, a Jaalam, a Chora.
36. Meibion Eliffas; Teman, ac Omar, Seffi, a Gatam, Cenas, a Thimna, ac Amalec.
37. Meibion Reuel; Nahath, Sera, Samma, a Missa.
38. A meibion Seir; Lotan, a Sobal, a Sibeon, ac Ana, a Dison, ac Eser, a Disan.
39. A meibion Lotan; Hori, a Homam: a chwaer Lotan oedd Timna.
40. Meibion Sobal; Alïan, a Manahath, ac Ebal, Seffi, ac Onam. A meibion Sibeon; Aia, ac Ana.
41. Meibion Ana; Dison. A meibion Dison; Amram, ac Esban, ac Ithran, a Cheran.
42. Meibion Eser; Bilhan, a Safan, a Jacan. Meibion Dison; Us, ac Aran.