57. Yr Arglwydd ein Duw fyddo gyda ni, fel y bu gyda'n tadau: na wrthoded ni, ac na'n gadawed ni:
58. I ostwng ein calonnau ni iddo ef, i rodio yn ei holl ffyrdd ef, ac i gadw ei orchmynion ef, a'i ddeddfau, a'i farnedigaethau, y rhai a orchmynnodd efe i'n tadau ni.
59. A bydded fy ngeiriau hyn, y rhai a ddeisyfais gerbron yr Arglwydd, yn agos at yr Arglwydd ein Duw ddydd a nos, i wneuthur barn â'i was, a barn â'i bobl Israel beunydd, fel y byddo'r achos:
60. Fel y gwypo holl bobl y ddaear mai yr Arglwydd sydd Dduw, ac nad oes arall.
61. Bydded gan hynny eich calon yn berffaith gyda'r Arglwydd ein Duw ni, i rodio yn ei ddeddfau ef, ac i gadw ei orchmynion ef, fel heddiw.
62. A'r brenin a holl Israel gydag ef a aberthasant aberth gerbron yr Arglwydd.
63. A Solomon a aberthodd aberth hedd, yr hwn a offrymodd efe i'r Arglwydd, sef dwy fil ar hugain o wartheg, a chwech ugain mil o ddefaid. Felly y brenin a holl feibion Israel a gysegrasant dŷ yr Arglwydd.
64. Y dwthwn hwnnw y sancteiddiodd y brenin ganol y cyntedd oedd o flaen tŷ yr Arglwydd: canys yno yr offrymodd efe y poethoffrymau, a'r bwyd‐offrymau, a braster yr offrymau hedd: oherwydd yr allor bres, yr hon oedd gerbron yr Arglwydd, oedd ry fechan i dderbyn y poethoffrymau, a'r bwyd‐offrymau, a braster yr offrymau hedd.
65. A Solomon a gadwodd y pryd hwnnw ŵyl, a holl Israel gydag ef, cynulleidfa fawr, o ddyfodfa Hamath hyd afon yr Aifft, gerbron yr Arglwydd ein Duw, saith o ddyddiau a saith o ddyddiau, sef pedwar diwrnod ar ddeg.
66. A'r wythfed dydd y gollyngodd efe ymaith y bobl: a hwy a fendithiasant y brenin, ac a aethant i'w pebyll yn hyfryd ac â chalon lawen, am yr holl ddaioni a wnaethai yr Arglwydd i Dafydd ei was, ac i Israel ei bobl.