51. Canys dy bobl di a'th etifeddiaeth ydynt hwy, y rhai a ddygaist ti allan o'r Aifft, o ganol y ffwrn haearn:
52. Fel y byddo dy lygaid yn agored i ddeisyfiad dy was, a deisyfiad dy bobl Israel, i wrando arnynt hwy pa bryd bynnag y galwont arnat ti.
53. Canys ti a'u neilltuaist hwynt yn etifeddiaeth i ti o holl bobl y ddaear, fel y lleferaist trwy law Moses dy was, pan ddygaist ein tadau ni allan o'r Aifft, O Arglwydd Dduw.
54. Ac wedi gorffen o Solomon weddïo ar yr Arglwydd yr holl weddi a'r deisyfiad yma, efe a gyfododd oddi gerbron allor yr Arglwydd, o ostwng ar ei liniau, ac o estyn ei ddwylo tua'r nefoedd.
55. Ac efe a safodd, ac a fendithiodd holl gynulleidfa Israel â llef uchel, gan ddywedyd,
56. Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn a roddes lonyddwch i'w bobl Israel, yn ôl yr hyn oll a lefarodd efe: ni syrthiodd un gair o'i holl addewidion da ef, y rhai a addawodd efe trwy law Moses ei was.
57. Yr Arglwydd ein Duw fyddo gyda ni, fel y bu gyda'n tadau: na wrthoded ni, ac na'n gadawed ni:
58. I ostwng ein calonnau ni iddo ef, i rodio yn ei holl ffyrdd ef, ac i gadw ei orchmynion ef, a'i ddeddfau, a'i farnedigaethau, y rhai a orchmynnodd efe i'n tadau ni.
59. A bydded fy ngeiriau hyn, y rhai a ddeisyfais gerbron yr Arglwydd, yn agos at yr Arglwydd ein Duw ddydd a nos, i wneuthur barn â'i was, a barn â'i bobl Israel beunydd, fel y byddo'r achos:
60. Fel y gwypo holl bobl y ddaear mai yr Arglwydd sydd Dduw, ac nad oes arall.