5. A'r brenin Solomon, a holl gynulleidfa Israel, y rhai a ymgynullasai ato ef, oedd gydag ef o flaen yr arch, yn aberthu defaid, a gwartheg, y rhai ni rifid ac ni chyfrifid, gan luosowgrwydd.
6. Felly yr offeiriaid a ddygasant arch cyfamod yr Arglwydd i'w lle ei hun, i gafell y tŷ, i'r cysegr sancteiddiaf, dan adenydd y ceriwbiaid.
7. Canys y ceriwbiaid oedd yn lledu eu hadenydd dros le yr arch; a'r ceriwbiaid a orchuddient yr arch, a'i barrau oddi arnodd.
8. A'r barrau a estynasant, fel y gwelid pennau y barrau o'r cysegr o flaen y gafell, ond nis gwelid oddi allan: yno y maent hwy hyd y dydd hwn.
9. Nid oedd dim yn yr arch ond y ddwy lech faen a osodasai Moses yno yn Horeb, lle y cyfamododd yr Arglwydd â meibion Israel, pan oeddynt yn dyfod o wlad yr Aifft.
10. A phan ddaeth yr offeiriaid allan o'r cysegr, y cwmwl a lanwodd dŷ yr Arglwydd,
11. Fel na allai yr offeiriaid sefyll i wasanaethu, oherwydd y cwmwl: canys gogoniant yr Arglwydd a lanwasai dŷ yr Arglwydd.
12. Yna y dywedodd Solomon, Yr Arglwydd a ddywedodd, y preswyliai efe yn y tywyllwch.
13. Gan adeiladu yr adeiledais dŷ yn breswylfod i ti; trigle i ti i aros yn dragywydd ynddo.
14. A'r brenin a drodd ei wyneb, ac a fendithiodd holl gynulleidfa Israel. A holl gynulleidfa Israel oedd yn sefyll.
15. Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a lefarodd â'i enau wrth Dafydd fy nhad, ac a'i cwblhaodd â'i law, gan ddywedyd,
16. Er y dydd y dygais fy mhobl Israel allan o'r Aifft, ni ddewisais ddinas o holl lwythau Israel i adeiladu tŷ, fel y byddai fy enw i yno: eithr dewisais Dafydd i fod ar fy mhobl Israel.
17. Ac yr oedd ym mryd Dafydd fy nhad adeiladu tŷ i enw Arglwydd Dduw Israel.
18. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Dafydd fy nhad, Oherwydd bod yn dy fryd di adeiladu tŷ i'm henw i, da y gwnaethost fod hynny yn dy galon: