Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 7:40-51 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

40. Gwnaeth Hiram hefyd y noeau, a'r rhawiau, a'r cawgiau: a Hiram a orffennodd wneuthur yr holl waith, yr hwn a wnaeth efe i'r brenin Solomon yn nhŷ yr Arglwydd.

41. Y ddwy golofn, a'r cnapiau coronog y rhai oedd ar ben y ddwy golofn; a'r ddau rwydwaith, i guddio y ddau gnap coronog oedd ar ben y colofnau;

42. A phedwar cant o bomgranadau i'r ddau rwydwaith, dwy res o bomgranadau i un rhwydwaith, i guddio y ddau gnap coronog oedd ar y colofnau;

43. A'r deg ystôl, a'r deg noe ar yr ystolion;

44. Ac un môr, a deuddeg o ychen dan y môr;

45. A'r crochanau, a'r rhawiau, a'r cawgiau; a'r holl lestri a wnaeth Hiram i'r brenin Solomon, i dŷ yr Arglwydd, oedd o bres gloyw.

46. Yng ngwastadedd yr Iorddonen y toddodd y brenin hwynt mewn cleidir, rhwng Succoth a Sarthan.

47. A Solomon a beidiodd â phwyso yr holl lestri, oherwydd eu lluosowgrwydd anfeidrol hwynt: ac ni wybuwyd pwys y pres chwaith.

48. A Solomon a wnaeth yr holl ddodrefn a berthynai i dŷ yr Arglwydd; yr allor aur, a'r bwrdd aur, yr hwn yr oedd y bara gosod arno;

49. A phum canhwyllbren o'r tu deau, a phump o'r tu aswy, o flaen y gafell, yn aur pur; a'r blodau, a'r llusernau, a'r gefeiliau, o aur;

50. Y ffiolau hefyd, a'r saltringau, a'r cawgiau, a'r llwyau, a'r thuserau, o aur coeth; a bachau dorau y tŷ, o fewn y cysegr sancteiddiaf, a dorau tŷ y deml, oedd aur.

51. Felly y gorffennwyd yr holl waith a wnaeth y brenin Solomon i dŷ yr Arglwydd. A Solomon a ddug i mewn yr hyn a gysegrasai Dafydd ei dad; yr arian, a'r aur, a'r dodrefn, a roddodd efe ymhlith trysorau tŷ yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 7