Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 7:20-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Ac i'r cnapiau ar y ddwy golofn oddi arnodd, ar gyfer y canol, yr oedd pomgranadau, y rhai oedd wrth y rhwydwaith; a'r pomgranadau oedd ddau cant, yn rhesau o amgylch, ar y cnap arall.

21. Ac efe a gyfododd y colofnau ym mhorth y deml: ac a gyfododd y golofn ddeau, ac a alwodd ei henw hi Jachin; ac efe a gyfododd y golofn aswy, ac a alwodd ei henw hi Boas.

22. Ac ar ben y colofnau yr oedd gwaith lili. Felly y gorffennwyd gwaith y colofnau.

23. Ac efe a wnaeth fôr tawdd yn ddeg cufydd o ymyl i ymyl: yn grwn oddi amgylch, ac yn bum cufydd ei uchder; a llinyn o ddeg cufydd ar hugain a'i hamgylchai oddi amgylch.

24. A chnapiau a'i hamgylchent ef dan ei ymyl o amgylch, deg mewn cufydd oedd yn amgylchu'r môr o amgylch: y cnapiau oedd yn ddwy res, wedi eu bwrw pan fwriwyd yntau.

25. Sefyll yr oedd ar ddeuddeg o ychen; tri oedd yn edrych tua'r gogledd, a thri yn edrych tua'r gorllewin, a thri yn edrych tua'r deau, a thri yn edrych tua'r dwyrain: a'r môr arnynt oddi arnodd, a'u pennau ôl hwynt oll o fewn.

26. Ei dewder hefyd oedd ddyrnfedd, a'i ymyl fel gwaith ymyl cwpan, a blodau lili: dwy fil o bathau a annai ynddo.

27. Hefyd efe a wnaeth ddeg o ystolion pres; pedwar cufydd oedd hyd pob ystôl, a phedwar cufydd ei lled, a thri chufydd ei huchder.

28. A dyma waith yr ystolion: ystlysau oedd iddynt, a'r ystlysau oedd rhwng y delltennau:

29. Ac ar yr ystlysau oedd rhwng y delltennau, yr oedd llewod, ychen, a cheriwbiaid; ac ar y dellt yr oedd ystôl oddi arnodd; ac oddi tan y llewod a'r ychen yr oedd cysylltiadau o waith tenau.

30. A phedair olwyn bres oedd i bob ystôl, a phlanciau pres; ac yn eu pedair congl yr oedd ysgwyddau iddynt: dan y noe yr oedd ysgwyddau, wedi eu toddi ar gyfer pob cysylltiad.

31. A'i genau oddi fewn y cwmpas, ac oddi arnodd, oedd gufydd; a'i genau hi oedd grwn, ar waith yr ystôl, yn gufydd a hanner; ac ar ei hymyl hi yr oedd cerfiadau, a'i hystlysau yn bedwar ochrog, nid yn grynion.

32. A'r pedair olwyn oedd dan yr ystlysau, ac echelau yr olwynion yn yr ystôl; ac uchder pob olwyn yn gufydd a hanner cufydd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 7