Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 6:9-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Felly yr adeiladodd efe y tŷ, ac a'i gorffennodd; ac a fyrddiodd y tŷ â thrawstiau ac ystyllod o gedrwydd.

10. Ac efe a adeiladodd ystafelloedd wrth yr holl dŷ, yn bum cufydd eu huchder: ac â choed cedr yr oeddynt yn pwyso ar y tŷ.

11. A daeth gair yr Arglwydd at Solomon, gan ddywedyd,

12. Am y tŷ yr wyt ti yn ei adeiladu, os rhodi di yn fy neddfau i, a gwneuthur fy marnedigaethau, a chadw fy holl orchmynion, gan rodio ynddynt; yna y cyflawnaf â thi fy ngair a leferais wrth Dafydd dy dad:

13. A mi a breswyliaf ymysg meibion Israel, ac ni adawaf fy mhobl Israel.

14. Felly yr adeiladodd Solomon y tŷ, ac a'i gorffennodd.

15. Ac efe a fyrddiodd barwydydd y tŷ oddi fewn ag ystyllod cedrwydd, o lawr y tŷ hyd y llogail y byrddiodd efe ef â choed oddi fewn: byrddiodd hefyd lawr y tŷ â phlanciau o ffynidwydd.

16. Ac efe a adeiladodd ugain cufydd ar ystlysau y tŷ ag ystyllod cedr, o'r llawr hyd y parwydydd: felly yr adeiladodd iddo o fewn, sef i'r gafell, i'r cysegr sancteiddiolaf.

17. A'r tŷ, sef y deml o'i flaen ef, oedd ddeugain cufydd ei hyd.

18. A chedrwydd y tŷ oddi fewn oedd wedi eu cerfio yn gnapiau, ac yn flodau agored: y cwbl oedd gedrwydd; ni welid carreg.

19. A'r gafell a ddarparodd efe yn y tŷ o fewn, i osod yno arch cyfamod yr Arglwydd.

20. A'r gafell yn y pen blaen oedd ugain cufydd o hyd, ac ugain cufydd o led, ac ugain cufydd ei huchder: ac efe a'i gwisgodd ag aur pur; felly hefyd y gwisgodd efe yr allor o gedrwydd.

21. Solomon hefyd a wisgodd y tŷ oddi fewn ag aur pur; ac a roddes farrau ar draws, wrth gadwyni aur, o flaen y gafell, ac a'u gwisgodd ag aur.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 6