20. A'r gafell yn y pen blaen oedd ugain cufydd o hyd, ac ugain cufydd o led, ac ugain cufydd ei huchder: ac efe a'i gwisgodd ag aur pur; felly hefyd y gwisgodd efe yr allor o gedrwydd.
21. Solomon hefyd a wisgodd y tŷ oddi fewn ag aur pur; ac a roddes farrau ar draws, wrth gadwyni aur, o flaen y gafell, ac a'u gwisgodd ag aur.
22. A'r holl dŷ a wisgodd efe ag aur, nes gorffen yr holl dŷ: yr allor hefyd oll, yr hon oedd wrth y gafell, a wisgodd efe ag aur.
23. Ac efe a wnaeth yn y gafell ddau o geriwbiaid, o bren olewydd, pob un yn ddeg cufydd ei uchder.
24. A'r naill adain i'r ceriwb oedd bum cufydd, a'r adain arall i'r cerub oedd bum cufydd: deg cufydd oedd o'r naill gwr i'w adenydd ef hyd y cwr arall i'w adenydd ef.
25. A'r ail geriwb oedd o ddeg cufydd: un mesur ac un agwedd oedd y ddau geriwb.
26. Uchder y naill geriwb oedd ddeg cufydd; ac felly yr oedd y ceriwb arall.
27. Ac efe a osododd y ceriwbiaid yn y tŷ oddi fewn: ac adenydd y ceriwbiaid a ymledasant, fel y cyffyrddodd adain y naill â'r naill bared, ac adain y ceriwb arall oedd yn cyffwrdd â'r pared arall; a'u hadenydd hwy yng nghanol y tŷ oedd yn cyffwrdd â'i gilydd.
28. Ac efe a wisgodd y ceriwbiaid ag aur.
29. A holl barwydydd y tŷ o amgylch a gerfiodd efe â cherfiedig luniau ceriwbiaid, a phalmwydd, a blodau agored; o fewn ac oddi allan.
30. Llawr y tŷ hefyd a wisgodd efe ag aur, oddi fewn ac oddi allan.
31. Ac i ddrws y gafell y gwnaeth efe ddorau o goed olewydd; capan y drws a'r gorsingau oedd bumed ran y pared.
32. Ac ar y ddwy ddôr o goed olewydd y cerfiodd efe gerfiadau ceriwbiaid, a phalmwydd, a blodau agored, ac a'u gwisgodd ag aur, ac a ledodd aur ar y ceriwbiaid, ac ar y palmwydd.
33. Ac felly y gwnaeth efe i ddrws y deml orsingau o goed olewydd, y rhai oedd bedwaredd ran y pared.
34. Ac yr oedd y ddwy ddôr o goed ffynidwydd: dwy ddalen blygedig oedd i'r naill ddôr, a dwy ddalen blygedig i'r ddôr arall.
35. Ac efe a gerfiodd geriwbiaid, a phalmwydd, a blodau agored, arnynt; ac a'u gwisgodd ag aur, yr hwn a gymhwyswyd ar y cerfiad.
36. Ac efe a adeiladodd y cyntedd nesaf i mewn â thair rhes o gerrig nadd, ac â rhes o drawstiau cedrwydd.