21. A Solomon oedd yn llywodraethu ar yr holl deyrnasoedd, o'r afon hyd wlad y Philistiaid, ac hyd derfyn yr Aifft: yr oeddynt hwy yn dwyn anrhegion, ac yn gwasanaethu Solomon holl ddyddiau ei einioes ef.
22. A bwyd Solomon beunydd oedd ddeg corus ar hugain o beilliaid, a thrigain corus o flawd;
23. Deg o ychen pasgedig, ac ugain o ychen porfadwy, a chant o ddefaid, heblaw ceirw, ac iyrchod, a buail, ac ednod breision.
24. Canys efe oedd yn llywodraethu ar y tu yma i'r afon oll, o Tiffsa hyd Assa, ar yr holl frenhinoedd o'r tu yma i'r afon: ac yr oedd iddo ef heddwch o bob parth iddo o amgylch.
25. Ac yr oedd Jwda ac Israel yn preswylio yn ddiogel, bob un dan ei winwydden a than ei ffigysbren, o Dan hyd Beer‐seba, holl ddyddiau Solomon.
26. Ac yr oedd gan Solomon ddeugain mil o bresebau meirch i'w gerbydau, a deuddeng mil o wŷr meirch.
27. A'r swyddogion hynny a baratoent luniaeth i Solomon y brenin, ac i bawb a ddelai i fwrdd y brenin Solomon, pob un yn ei fis: ni adawsant eisiau dim.
28. Haidd hefyd a gwellt a ddygasant hwy i'r meirch, ac i'r cyflym gamelod, i'r fan lle y byddai y swyddogion, pob un ar ei ran.
29. A Duw a roddodd ddoethineb i Solomon, a deall mawr iawn, a helaethdra calon, fel y tywod sydd ar fin y môr.
30. A doethineb Solomon oedd fwy na doethineb holl feibion y dwyrain, ac na holl ddoethineb yr Aifft.
31. Ie, doethach oedd efe nag un dyn; nag Ethan yr Esrahiad, na Heman, na Chalcol, na Darda, meibion Mahol: a'i enw ef oedd ymhlith yr holl genhedloedd oddi amgylch.
32. Ac efe a lefarodd dair mil o ddiarhebion: a'i ganiadau ef oedd fil a phump.
33. Llefarodd hefyd am brennau, o'r cedrwydd sydd yn Libanus, hyd yr isop a dyf allan o'r pared: ac efe a lefarodd am anifeiliaid, ac am ehediaid, ac am ymlusgiaid, ac am bysgod.
34. Ac o bob pobloedd y daethpwyd i wrando doethineb Solomon, oddi wrth holl frenhinoedd y ddaear, y rhai a glywsent am ei ddoethineb ef.