1. A'r brenin Solomon oedd frenin ar holl Israel.
2. A dyma y tywysogion oedd ganddo ef: Asareia mab Sadoc, yr offeiriad;
3. Elihoreff ac Ahia, meibion Sisa, oedd ysgrifenyddion; Jehosaffat mab Ahilud, yn gofiadur;
4. Benaia mab Jehoiada oedd ar y llu; a Sadoc ac Abiathar, yn offeiriaid;
5. Ac Asareia mab Nathan oedd ar y swyddogion; a Sabud mab Nathan oedd ben‐llywydd, ac yn gyfaill i'r brenin;
6. Ac Ahisar oedd benteulu; ac Adoniram mab Abda, ar y deyrnged.
7. A chan Solomon yr ydoedd deuddeg o swyddogion ar holl Israel, y rhai a baratoent luniaeth i'r brenin a'i dŷ: mis yn y flwyddyn yr oedd ar bob un ddarparu.
8. Dyma eu henwau hwynt. Mab Hur, ym mynydd Effraim.
9. Mab Decar ym Macas, ac yn Saalbim, a Beth‐semes, ac Elon‐bethanan.
10. Mab Hesed, yn Aruboth: iddo ef yr oedd Socho, a holl dir Heffer.
11. Mab Abinadab oedd yn holl ardal Dor: Taffath merch Solomon oedd yn wraig iddo ef.
12. Baana mab Ahilud oedd yn Taanach, a Megido, a Bethsean oll, yr hon sydd gerllaw Sartana, islaw Jesreel, o Bethsean hyd Abel‐mehola, hyd y tu hwnt i Jocneam.
13. Mab Geber oedd yn Ramoth‐Gilead: iddo ef yr oedd trefydd Jair mab Manasse, y rhai sydd yn Gilead: eiddo ef oedd ardal Argob, yr hon sydd yn Basan; sef trigain o ddinasoedd mawrion, â chaerau a barrau pres.