Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 3:6-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. A dywedodd Solomon, Ti a wnaethost â'th was Dafydd fy nhad fawr drugaredd, megis y rhodiodd efe o'th flaen di mewn gwirionedd, ac mewn cyfiawnder, ac mewn uniondeb calon gyda thi; ie, cedwaist iddo y drugaredd fawr hon, a rhoddaist iddo fab i eistedd ar ei orseddfainc, fel y gwelir heddiw.

7. Ac yn awr, O Arglwydd fy Nuw, ti a wnaethost i'th was deyrnasu yn lle Dafydd fy nhad: a minnau yn fachgen bychan: ni fedraf fyned nac allan nac i mewn.

8. A'th was sydd ymysg dy bobl, y rhai a ddewisaist ti; pobl aml, y rhai ni rifir ac nis cyfrifir gan luosowgrwydd.

9. Am hynny dyro i'th was galon ddeallus, i farnu dy bobl, i ddeall rhagor rhwng da a drwg: canys pwy a ddichon farnu dy luosog bobl hyn?

10. A'r peth fu dda yng ngolwg yr Arglwydd, am ofyn o Solomon y peth hyn.

11. A Duw a ddywedodd wrtho, Oherwydd gofyn ohonot y peth hyn, ac na ofynnaist i ti ddyddiau lawer, ac na ofynnaist i ti olud, ac na cheisiaist einioes dy elynion, eithr gofynnaist i ti ddeall i wrando barn:

12. Wele, gwneuthum yn ôl dy eiriau; wele, rhoddais i ti galon ddoeth a deallus, fel na bu dy fath o'th flaen, ac na chyfyd dy fath ar dy ôl.

13. A rhoddais i ti hefyd yr hyn nis gofynnaist, golud, a gogoniant hefyd; fel na byddo un o'th fath ymysg y brenhinoedd, dy holl ddyddiau di.

14. Ac os rhodi yn fy ffyrdd i, gan gadw fy neddfau a'm gorchmynion, megis y rhodiodd Dafydd dy dad, estynnaf hefyd dy ddyddiau di.

15. A Solomon a ddeffrôdd; ac wele, breuddwyd oedd. Ac efe a ddaeth i Jerwsalem, ac a safodd o flaen arch cyfamod yr Arglwydd, ac a offrymodd offrymau poeth, ac a aberthodd aberthau hedd, ac a wnaeth wledd i'w holl weision.

16. Yna dwy wraig o buteiniaid a ddaethant at y brenin, ac a safasant ger ei fron ef.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 3