Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 3:16-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Yna dwy wraig o buteiniaid a ddaethant at y brenin, ac a safasant ger ei fron ef.

17. A'r naill wraig a ddywedodd, O fy arglwydd, myfi a'r wraig hon oeddem yn trigo yn yr un tŷ; a mi a esgorais yn tŷ gyda hi.

18. Ac ar y trydydd dydd wedi esgor ohonof fi, yr esgorodd y wraig hon hefyd; ac yr oeddem ni ynghyd, heb arall yn tŷ gyda ni, ond nyni ein dwyoedd yn tŷ.

19. A mab y wraig hon a fu farw liw nos; oherwydd hi a orweddodd arno ef.

20. A hi a gododd yng nghanol y nos, ac a gymerodd fy mab i o'm hymyl, tra yr ydoedd dy lawforwyn yn cysgu, ac a'i gosododd ef yn ei mynwes hi, a'i mab marw hi a osododd hi yn fy mynwes innau.

21. A phan godais i y bore i beri i'm mab sugno, wele, marw oedd efe; ac wedi i mi ddal arno y bore, wele, nid fy mab i, yr hwn a esgoraswn i, ydoedd efe.

22. A'r wraig arall a ddywedodd, Nage; eithr fy mab i yw y byw, a'th fab dithau yw y marw. A hon a ddywedodd, Nage; eithr dy fab di yw y marw, a'm mab i yw y byw. Fel hyn y llefarasant o flaen y brenin.

23. Yna y dywedodd y brenin, Hon sydd yn dywedyd, Dyma fy mab i sydd fyw, a'th fab dithau yw y marw: a hon acw sydd yn dywedyd, Nage; eithr dy fab di yw y marw, a'm mab innau yw y byw.

24. A dywedodd y brenin, Dygwch i mi gleddyf. A hwy a ddygasant gleddyf o flaen y brenin.

25. A'r brenin a ddywedodd, Rhennwch y bachgen byw yn ddau, a rhoddwch yr hanner i'r naill, a'r hanner i'r llall.

26. Yna y dywedodd y wraig bioedd y mab byw wrth y brenin, (canys ei hymysgaroedd a gynesasai wrth ei mab,) ac a lefarodd, O fy arglwydd, rhoddwch iddi hi y bachgen byw, ac na leddwch ef ddim: ond y llall a ddywedodd, Na fydded eiddof fi na thithau, eithr rhennwch ef.

27. Yna yr atebodd y brenin, ac y dywedodd, Rhoddwch y bachgen byw iddi hi, ac na leddwch ef ddim: dyna ei fam ef.

28. A holl Israel a glywsant y farn a farnasai y brenin; a hwy a ofnasant y brenin: canys gwelsant fod doethineb Duw ynddo ef i wneuthur barn.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 3