1. A Solomon a ymgyfathrachodd â Pharo brenin yr Aifft, ac a briododd ferch Pharo, ac a'i dug hi i ddinas Dafydd, nes darfod iddo adeiladu ei dŷ ei hun, a thŷ yr Arglwydd, a mur Jerwsalem oddi amgylch.
2. Eto y bobl oedd yn aberthu mewn uchelfaoedd, oherwydd nad adeiladasid tŷ i enw yr Arglwydd, hyd y dyddiau hynny.
3. A Solomon a garodd yr Arglwydd, gan rodio yn neddfau Dafydd ei dad: eto mewn uchelfaoedd yr oedd efe yn aberthu ac yn arogldarthu.
4. A'r brenin a aeth i Gibeon i aberthu yno: canys honno oedd uchelfa fawr. Mil o boethoffrymau a offrymodd Solomon ar yr allor honno.
5. Yn Gibeon yr ymddangosodd yr Arglwydd i Solomon mewn breuddwyd liw nos: a dywedodd Duw, Gofyn beth a roddaf i ti.
6. A dywedodd Solomon, Ti a wnaethost â'th was Dafydd fy nhad fawr drugaredd, megis y rhodiodd efe o'th flaen di mewn gwirionedd, ac mewn cyfiawnder, ac mewn uniondeb calon gyda thi; ie, cedwaist iddo y drugaredd fawr hon, a rhoddaist iddo fab i eistedd ar ei orseddfainc, fel y gwelir heddiw.