Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 22:33-53 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

33. A phan welodd tywysogion y cerbydau nad brenin Israel oedd efe, hwy a ddychwelasant oddi ar ei ôl ef.

34. A rhyw ŵr a dynnodd mewn bwa ar ei amcan, ac a drawodd frenin Israel rhwng cysylltiadau y llurig; am hynny efe a ddywedodd wrth ei gerbydwr, Tro dy law, a dwg fi allan o'r fyddin; canys fe a'm clwyfwyd i.

35. A'r rhyfel a gryfhaodd y dwthwn hwnnw: a'r brenin a gynhelid i fyny yn ei gerbyd yn erbyn y Syriaid; ac efe a fu farw gyda'r hwyr: a gwaed yr archoll a ffrydiodd i ganol y cerbyd.

36. Ac fe aeth cyhoeddiad trwy y gwersyll ynghylch machludiad yr haul, gan ddywedyd, Eled pob un i'w ddinas, a phob un i'w wlad ei hun.

37. Felly y bu farw y brenin, ac y daeth efe i Samaria; a hwy a gladdasant y brenin yn Samaria.

38. A golchwyd ei gerbyd ef yn llyn Samaria; a'r cŵn a lyfasant ei waed ef: yr arfau hefyd a olchwyd; yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarasai efe.

39. A'r rhan arall o hanesion Ahab, a'r hyn oll a wnaeth efe, a'r tŷ ifori a adeiladodd efe, a'r holl ddinasoedd a adeiladodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?

40. Felly Ahab a hunodd gyda'i dadau; ac Ahaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

41. A Jehosaffat mab Asa a aeth yn frenin ar Jwda yn y bedwaredd flwyddyn i Ahab brenin Israel.

42. Jehosaffat oedd fab pymtheng mlwydd ar hugain pan aeth efe yn frenin: a phum mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. Ac enw ei fam ef oedd Asuba, merch Silhi.

43. Ac efe a rodiodd yn holl ffordd Asa ei dad, ni ŵyrodd efe oddi wrthi hi, gan wneuthur yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd. Er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd; y bobl oedd eto yn offrymu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd.

44. A Jehosaffat a heddychodd â brenin Israel.

45. A'r rhan arall o hanes Jehosaffat, a'i rymustra a wnaeth efe, a'r modd y rhyfelodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?

46. A'r rhan arall o'r sodomiaid a'r a adawyd yn nyddiau Asa ei dad ef, efe a'u dileodd o'r wlad.

47. Yna nid oedd brenin yn Edom: ond rhaglaw oedd yn lle brenin.

48. Jehosaffat a wnaeth longau môr i fyned i Offir am aur: ond nid aethant; canys y llongau a ddrylliodd yn Esion‐Gaber.

49. Yna y dywedodd Ahaseia mab Ahab wrth Jehosaffat, Eled fy ngweision i gyda'th weision di yn y llongau: ond ni fynnai Jehosaffat.

50. A Jehosaffat a hunodd gyda'i dadau, ac a gladdwyd gyda'i dadau yn ninas Dafydd ei dad; a Jehoram ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

51. Ahaseia mab Ahab a aeth yn frenin ar Israel yn Samaria, yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg i Jehosaffat brenin Jwda; ac a deyrnasodd ar Israel ddwy flynedd.

52. Ac efe a wnaeth ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, ac a rodiodd yn ffordd ei dad, ac yn ffordd ei fam, ac yn ffordd Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.

53. Canys efe a wasanaethodd Baal, ac a ymgrymodd iddo, ac a ddigiodd Arglwydd Dduw Israel, yn ôl yr hyn oll a wnaethai ei dad.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 22