28. A dywedodd Michea, Os gan ddychwelyd y dychweli di mewn heddwch, ni lefarodd yr Arglwydd ynof fi. Dywedodd hefyd, Gwrandewch hyn yr holl bobl.
29. Felly brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda a aethant i fyny i Ramoth‐Gilead.
30. A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Mi a newidiaf fy nillad, ac a af i'r rhyfel; ond gwisg di dy ddillad dy hun. A brenin Israel a newidiodd ei ddillad, ac a aeth i'r rhyfel.
31. A brenin Syria a orchmynasai i dywysogion y cerbydau oedd ganddo, sef deuddeg ar hugain, gan ddywedyd, Nac ymleddwch â bychan nac â mawr, ond â brenin Israel yn unig.
32. A phan welodd tywysogion y cerbydau Jehosaffat, hwy a ddywedasant, Diau brenin Israel yw efe. A hwy a droesant i ymladd yn ei erbyn ef: a Jehosaffat a waeddodd.
33. A phan welodd tywysogion y cerbydau nad brenin Israel oedd efe, hwy a ddychwelasant oddi ar ei ôl ef.
34. A rhyw ŵr a dynnodd mewn bwa ar ei amcan, ac a drawodd frenin Israel rhwng cysylltiadau y llurig; am hynny efe a ddywedodd wrth ei gerbydwr, Tro dy law, a dwg fi allan o'r fyddin; canys fe a'm clwyfwyd i.
35. A'r rhyfel a gryfhaodd y dwthwn hwnnw: a'r brenin a gynhelid i fyny yn ei gerbyd yn erbyn y Syriaid; ac efe a fu farw gyda'r hwyr: a gwaed yr archoll a ffrydiodd i ganol y cerbyd.