18. A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Oni ddywedais i wrthyt ti, na phroffwydai efe ddaioni i mi, eithr drygioni?
19. Ac efe a ddywedodd, Clyw gan hynny air yr Arglwydd: Gwelais yr Arglwydd yn eistedd ar ei orseddfa, a holl lu'r nefoedd yn sefyll yn ei ymyl, ar ei law ddeau ac ar ei law aswy.
20. A'r Arglwydd a ddywedodd, Pwy a dwylla Ahab, fel yr elo efe i fyny ac y syrthio yn RamothâGilead? Ac un a ddywedodd fel hyn, ac arall oedd yn dywedyd fel hyn.