Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 22:1-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A buant yn aros dair blynedd heb ryfel rhwng Syria ac Israel.

2. Ac yn y drydedd flwyddyn, Jehosaffat brenin Jwda a ddaeth i waered at frenin Israel.

3. A brenin Israel a ddywedodd wrth ei weision, Oni wyddoch mai eiddo ni yw Ramoth‐Gilead, a'n bod ni yn tewi, heb ei dwyn hi o law brenin Syria?

4. Ac efe a ddywedodd wrth Jehosaffat, A ei gyda mi i ryfel i Ramoth‐Gilead? A Jehosaffat a ddywedodd wrth frenin Israel, Yr ydwyf fi fel tithau, fy mhobl i fel dy bobl dithau, fy meirch i fel dy feirch dithau.

5. Jehosaffat hefyd a ddywedodd wrth frenin Israel, Ymgynghora, atolwg, heddiw â gair yr Arglwydd.

6. Yna brenin Israel a gasglodd y proffwydi, ynghylch pedwar cant o wŷr, ac a ddywedodd wrthynt, A af fi yn erbyn Ramoth‐Gilead i ryfel, neu a beidiaf fi? Dywedasant hwythau, Dos i fyny; canys yr Arglwydd a'i dyry hi yn llaw y brenin.

7. A Jehosaffat a ddywedodd, Onid oes yma un proffwyd i'r Arglwydd mwyach, fel yr ymgynghorem ag ef?

8. A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Y mae eto un gŵr trwy yr hwn y gallem ymgynghori â'r Arglwydd: eithr cas yw gennyf fi ef; canys ni phroffwyda efe i mi ddaioni, namyn drygioni; Michea mab Jimla yw efe. A dywedodd Jehosaffat, Na ddyweded y brenin felly.

9. Yna brenin Israel a alwodd ar un o'i ystafellyddion, ac a ddywedodd, Prysura yma Michea mab Jimla.

10. A brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda oeddynt yn eistedd bob un ar ei deyrngadair, wedi gwisgo eu brenhinol wisgoedd, mewn llannerch wrth ddrws porth Samaria; a'r holl broffwydi oedd yn proffwydo ger eu bron hwynt.

11. A Sedeceia mab Cenaana a wnaeth iddo gyrn heyrn; ac efe a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, A'r rhai hyn y corni di y Syriaid, nes i ti eu difa hwynt.

12. A'r holl broffwydi oedd yn proffwydo fel hyn, gan ddywedyd, Dos i fyny i Ramoth‐Gilead, a llwydda; canys yr Arglwydd a'i dyry hi yn llaw y brenin.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 22